6 Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw'r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd?
7 Onid ydynt hwy'n cablu'r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi?
8 Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur:
9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr.
10 Canys pwy bynnag a gadwo'r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl.
11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu'r gyfraith.
12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid.