4 Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno'r llywydd.
5 Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn!
6 A'r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae'r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi'r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern.
7 Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a'r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol:
8 Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol.
9 Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a'r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw.
10 O'r un genau y mae'n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai'r pethau hyn fod felly.