9 Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a'r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw.
10 O'r un genau y mae'n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai'r pethau hyn fod felly.
11 A ydyw ffynnon o'r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw?
12 A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw.
13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.
14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd.
15 Nid yw'r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw.