8 Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd.
9 Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na'ch condemnier: wele, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.
10 Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros.
11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw'r Arglwydd, a thrugarog.
12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a'ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.
13 A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn esmwyth arno? caned salmau.
14 A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw'r Arglwydd: