16 Ac o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras.
17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i hysbysodd ef.
19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw'r Crist.
21 A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai'r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.
22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?