19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw'r Crist.
21 A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai'r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.
22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?
23 Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd.
24 A'r rhai a anfonasid oedd o'r Phariseaid.
25 A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na'r Crist, nac Eleias, na'r proffwyd?