40 Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a'i dilynasent ef.
41 Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o'i ddeongl yw, Y Crist.
42 Ac efe a'i dug ef at yr Iesu. A'r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, Carreg.
43 Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
44 A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr.
45 Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a'r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.
46 A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl.