12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi?
13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a'r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf.
14 Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd;
15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi.
16 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd; na'r hwn a ddanfonwyd yn fwy na'r hwn a'i danfonodd.
17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
18 Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn.