14 Efe a'm gogonedda i: canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.
15 Yr holl bethau sydd eiddo'r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o'r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
16 Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad.
17 Am hynny y dywedodd rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?
18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.
19 Yna y gwybu'r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â'ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch?
20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.