2 Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r synagogau: ac y mae'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.
3 A'r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi.
4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy mod gyda chwi.
5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti'n myned?
6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.
7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw'r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a'i hanfonaf ef atoch.
8 A phan ddêl, efe a argyhoedda'r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: