27 Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.
28 Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i'r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad.
29 Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg.
30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw.
31 Yr Iesu a'u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?
32 Wele, y mae'r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae'r Tad gyda myfi.
33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.