7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw'r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a'i hanfonaf ef atoch.
8 A phan ddêl, efe a argyhoedda'r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:
9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi:
10 O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni'm gwelwch i mwyach;
11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.
12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.
13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono'i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a'r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.