1 Yna gan hynny y cymerodd Peilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd ef.
2 A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisg o borffor amdano;
3 Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon; ac a roesant iddo gernodiau.
4 Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.
5 Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a'r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele'r dyn.