13 Yna Peilat, pan glybu'r ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orseddfainc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.
14 A darpar‐ŵyl y pasg oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin.
15 Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? A'r archoffeiriaid a atebasant, Nid oes i ni frenin ond Cesar.
16 Yna gan hynny efe a'i traddodes ef iddynt i'w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymaith.
17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle'r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:
18 Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol.
19 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a'i dododd ar y groes. A'r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.