16 Yna gan hynny efe a'i traddodes ef iddynt i'w groeshoelio. A hwy a gymerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymaith.
17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle'r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:
18 Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol.
19 A Pheilat a ysgrifennodd deitl, ac a'i dododd ar y groes. A'r ysgrifen oedd, IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.
20 Y teitl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o'r Iddewon; oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin.
21 Yna archoffeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Peilat, Nac ysgrifenna Brenin yr Iddewon; eithr dywedyd ohono ef, Brenin yr Iddewon ydwyf fi.
22 Peilat a atebodd, Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.