23 Yna y milwyr, wedi iddynt groeshoelio'r Iesu, a gymerasant ei ddillad ef, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran; a'i bais ef: a'i bais ef oedd ddiwnïad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf trwyddi oll.
24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Rhanasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goelbrennau. A'r milwyr a wnaethant y pethau hyn.
25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen.
26 Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a'r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.
27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i'w gartref.
28 Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.
29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch isop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef.