26 Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a'r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.
27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i'w gartref.
28 Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.
29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch isop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef.
30 Yna pan gymerodd yr Iesu'r finegr, efe a ddywedodd, Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd.
31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai'r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a'u tynnu i lawr.
32 Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau'r cyntaf, a'r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef.