31 Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o'r nef i'w fwyta.
32 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi'r bara o'r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi'r gwir fara o'r nef.
33 Canys bara Duw ydyw'r hwn sydd yn dyfod i waered o'r nef, ac yn rhoddi bywyd i'r byd.
34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni'r bara hwn yn wastadol.
35 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara'r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
36 Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.
37 Yr hyn oll y mae'r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a'r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.