31 Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu arall heibio.
32 A'r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i'r fan, a'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio.
33 Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd,
34 Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r llety, ac a'i hamgeleddodd.
35 A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a'i talaf i ti.
36 Pwy gan hynny o'r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i'r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?
37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.