35 A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a'i talaf i ti.
36 Pwy gan hynny o'r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i'r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?
37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a'i henw Martha, a'i derbyniodd ef i'w thŷ.
39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.
40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.
41 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau: