7 Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain.
8 A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.
9 Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y'ch derbyniont i'r tragwyddol bebyll.
10 Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.
11 Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?
12 Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?
13 Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.