9 Oes ganddo ddiolch i'r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied.
10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.
11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea.
12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell:
13 A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym.
14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhawyd hwynt.
15 Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.