13 Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.
14 A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy'r holl fro oddi amgylch.
15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
16 Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i'r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen.
17 A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu'r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb,
19 I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.