27 A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad.
28 A'r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint;
29 Ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.
30 Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;
31 Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.
32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.
33 Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,