31 Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.
32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.
33 Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,
34 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? Myfi a'th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.
35 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan ohono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.
36 A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan.
37 A sôn amdano a aeth allan i bob man o'r wlad oddi amgylch.