39 Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a'r cryd a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40 A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a'u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt, ac a'u hiachaodd hwynt.
41 A'r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a'u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist.
42 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaith: a'r bobloedd a'i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd ato, ac a'i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt.
43 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y'm danfonwyd.
44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea.