6 A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.
7 Os tydi gan hynny a addoli o'm blaen, eiddot ti fyddant oll.
8 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.
9 Ac efe a'i dug ef i Jerwsalem, ac a'i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:
10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i'w angylion o'th achos di, ar dy gadw di;
11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.
12 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.