9 Ac efe a'i dug ef i Jerwsalem, ac a'i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:
10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i'w angylion o'th achos di, ar dy gadw di;
11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.
12 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.
13 Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.
14 A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy'r holl fro oddi amgylch.
15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.