Marc 16 BWM

1 Ac wedi darfod y dydd Saboth, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, i ddyfod i'w eneinio ef.

2 Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o'r wythnos, y daethant at y bedd, a'r haul wedi codi.

3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd?

4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn.

5 Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o'r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant.

6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.

7 Eithr ewch ymaith, dywedwch i'w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi.

8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.

9 A'r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o'r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid.

10 Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.

11 A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.

12 Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i'r wlad.

13 A hwy a aethant, ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.

14 Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi atgyfodi.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.

16 Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.

17 A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant;

18 Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.

19 Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i'r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.

20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau'r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16