10 Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae'r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.
12 Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.
13 Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a'r disgyblion a'u ceryddodd hwynt.
14 A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.
15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.
16 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?