13 Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a'r disgyblion a'u ceryddodd hwynt.
14 A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.
15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.
16 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?
17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.
18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A'r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth,
19 Anrhydedda dy dad a'th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.