15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.
16 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?
17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.
18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A'r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth,
19 Anrhydedda dy dad a'th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.
20 Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?
21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.