18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A'r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth,
19 Anrhydedda dy dad a'th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.
20 Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?
21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
22 A phan glybu'r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
23 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.
24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.