2 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.
3 A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â'i wraig am bob achos?
4 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw?
5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd.
6 Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.
7 Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith?
8 Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd: eithr o'r dechrau nid felly yr oedd.