1 A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato.
2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,
3 Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
4 Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.
5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.
6 Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
7 Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.