21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn:
22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.
23 Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn;
24 Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.
25 Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw'r barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yng ngharchar.
26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb;