25 Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw'r barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yng ngharchar.
26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb;
28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i'w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.
29 Ac os dy lygad deau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
30 Ac os dy law ddeau a'th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.
31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: