33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i'r Arglwydd:
34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i'r nef; canys gorseddfa Duw ydyw:
35 Nac i'r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw.
36 Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.
37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.
38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant:
39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th drawo ar dy rudd ddeau, tro'r llall iddo hefyd.