1 Ac wedi ei ddyfod ef i waered o'r mynydd, torfeydd lawer a'i canlynasant ef.
2 Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.
3 A'r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd.
4 A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.