10 A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd:
12 Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A'i was a iachawyd yn yr awr honno.
14 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r cryd.
15 Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi; a'r cryd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.
16 Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;