23 Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddisgyblion a'i canlynasant ef.
24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.
25 A'i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.
26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.
27 A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo!
28 Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.
29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?