5 Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno,
6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddirfawr.
7 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef.
8 A'r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a'm gwas a iacheir.
9 Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
10 A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd: