14 Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau;
15 Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;
16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.
17 Ie, a phe'm hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll.
18 Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.
19 Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y'm cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi.
20 Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi.