1 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.
2 Ac na chydymffurfiwch â'r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.
3 Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a'r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
4 Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd:
5 Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd.
6 A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd;
7 Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth;
8 Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.
9 Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da.
10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd:
11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd:
12 Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi:
13 Yn cyfrannu i gyfreidiau'r saint; ac yn dilyn lletygarwch.
14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch.
15 Byddwch lawen gyda'r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda'r rhai sydd yn wylo.
16 Byddwch yn unfryd â'ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.
17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn.
18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn.
19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.
20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef.
21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.