Rhufeiniaid 13 BWM

1 Ymddarostynged pob enaid i'r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a'r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.

2 Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a'r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.

3 Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna'r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo:

4 Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.

5 Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd.

6 Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna.

7 Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i'r hwn y mae toll; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch yn ddyledus.

8 Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith.

9 Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun.

10 Cariad ni wna ddrwg i'w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad.

11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom.

12 Y nos a gerddodd ymhell, a'r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau'r goleuni.

13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen.

14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16