1 A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.
2 Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.
3 Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.
4 Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.
5 A Duw yr amynedd a'r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu: