18 Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o'r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred,
19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist.
20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu'r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall:
21 Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I'r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a'i gwelant ef; a'r rhai ni chlywsant, a ddeallant.
22 Am hynny hefyd y'm lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi.
23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi;
24 Pan elwyf i'r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch.