28 Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i'r Hispaen.
29 Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist.
30 Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw;
31 Fel y'm gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint;
32 Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y'm cydlonner gyda chwi.
33 A Duw'r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.