9 Dyma ysgrifennodd hi: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi Naboth i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb.
10 Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a'i gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a'u cael nhw i gyhuddo Naboth o fod wedi melltithio Duw a'r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.”
11 Dyma'r arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau.
12 Dyma nhw'n cyhoeddi diwrnod o ymprydio, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl.
13 Yna dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth. A dyma nhw'n ei gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw.
14 Wedyn, dyma nhw'n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.”
15 Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi'n dweud wrth Ahab “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw, mae e wedi marw.”