18 Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi ei gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg.
19 Roedd y gell gysegredig y tu mewn i'r deml ar gyfer Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD.
20 Roedd y gell yn naw metr o hyd, naw metr o led a naw metr o uchder. Cafodd ei gorchuddio'n llwyr gydag aur pur. A'r allor o gedrwydd yr un fath.
21 Roedd tu mewn y deml i gyd wedi ei orchuddio gydag aur pur. Roedd cadwyni aur o flaen y gell gysegredig fewnol, ac roedd y gell ei hun wedi ei gorchuddio ag aur hefyd.
22 Roedd aur pur yn gorchuddio pob twll a chornel o'r deml, gan gynnwys yr allor oedd yn y gell fewnol gysegredig.
23 Yn y cysegr mewnol dyma fe'n gwneud dau geriwb o goed olewydd. Roedden nhw'n bedwar metr a hanner o daldra.
24 Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd – pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall.